Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade and Rural Affairs Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Priorities for the Sixth Senedd.

ETRA - 39

Ymateb gan: ACCA Cymru

Evidence from: ACCA Wales

 

 

Ymateb ACCA i ymgynghoriad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd - 1 Medi 2021

Ynglŷn ag ACCA

ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) yw'r corff proffesiynol byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Rydym yn gymuned fyd-eang o 233,000 o aelodau a 536,000 o fyfyrwyr wedi'u lleoli mewn 178 o wledydd a rhanbarthau, sy'n gweithio ar draws amryw o sectorau a diwydiannau. Yng Nghymru, mae gennym dros 3,500 o aelodau yn gweithio ar draws sectorau gan gynnwys cyfrifwyr breifat, y sector cyhoeddus, gwasanaethau ariannol, gweithgynhyrchu a hamdden a lletygarwch. Rydym yn cynnal y gwerthoedd proffesiynol a moesegol uchaf.

Rydym yn cynnig cyfle i bawb ym mhobman brofi gyrfa werth chweil ym maes cyfrifeg, cyllid a rheolaeth. Mae ein cymwysterau a'n cyfleoedd dysgu yn datblygu arweinwyr busnes strategol, gweithwyr proffesiynol blaengar gyda'r arbenigedd ariannol, busnes a digidol sy'n hanfodol ar gyfer creu sefydliadau cynaliadwy a chymdeithasau llewyrchus.

Ers 1904, mae bod yn rym er budd y cyhoedd wedi cael ei wreiddio yn ein pwrpas. Credwn fod cyfrifeg yn broffesiwn conglfaen i gymdeithas ac mae'n hanfodol gan helpu economïau, sefydliadau ac unigolion i dyfu a ffynnu. Rydym yn gwneud hyn trwy greu rheolaeth ariannol gryf a busnesau gadarn y gellir ymddiried ynddynt, brwydro yn erbyn llygredd, sicrhau bod sefydliadau'n cael eu rheoli'n foesegol, gyrru cynaliadwyedd, a darparu cyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Trwy ein hymchwil arloesol, rydym yn arwain y proffesiwn trwy ateb cwestiynau heddiw a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Rydym yn sefydliad dielw. Am fwy o wybodaeth, gweler: accaglobal.com

_____________________________________________________________________________

Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor rydym wedi tynnu sylw atynt yn cysylltu gyda’r ‘, Genhadaeth Gwydnwch ac Ailadeiladu Economaidd, Chwefror 2021, ac yn anelu i gefnogi economi Llewyrchus, Gwyrdd a Chyfartal.

1. Ariannu busnesau, gan gynnwys adferiad gwyrdd

Rydym wedi bod yn arolygu ein haelodau trwy gydol y pandemig ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys cymorth i fusnesau. Nododd ein harolwg diweddaraf, a nododd ddata gan gyfrifwyr sy'n cynrychioli 4,800 o gleientiaid busnesau bach a chanolig yng Nghymru, fod busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi dychwelyd yn gryf, i fasnachu ar y lefelau disgwyliedig neu'n uwch. Maent hefyd wedi dangos twf mewn hyder dros yr wythnosau diwethaf, gyda 60% o fusnesau bach a chanolig yn disgwyl dychwelyd i lefelau trosiant a chynhyrchedd cyn-Covid o fewn blwyddyn. Roedd un o bob pump o berchnogion busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cyflwyno cynlluniau i gael cyllid ychwanegol i fuddsoddi yn eu busnes.

Fodd bynnag, mae’r egni a’r uchelgais cadarnhaol hwn yn cael ei ddal yn ôl gan anhawsterau tra’n dod o hyd i ffynhonellau o ariannu - dywedodd 80% o gyfrifwyr yng Nghymru fod eu cleientiaid wedi ei chael yn anoddach cael gorddrafft hyd yn oed gan eu banc yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd busnesau bach a chanolig Cymru bron ddwywaith yn fwy tebygol (60%) o gael eu gwrthod am forgeisiau masnachol na busnesau ledled y DU (33%). Mae hyn wedi arwain at dwf mewn problemau iechyd meddwl, gyda 50% yn nodi bod cleientiaid yn teimlo mwy o straen a phryder, gyda 5% yn dweud eu bod yn teimlo na allant ymdopi.

Mae'n bwysig bod cronfeydd yn parhau i fod ar gael i gefnogi busnesau sy'n parhau i gael eu heffeithio y tu hwnt i gau grantiau cyfredol y Gronfa Gwydnwch Economaidd ym mis Awst.

Rydym yn parhau i glywed bod y nifer sy'n derbyn y Cynllun Benthyciadau Adferiad a lansiwyd ym mis Ebrill wedi bod yn isel iawn ac ychydig o fenthycwyr sydd wedi'u hachredu neu'n sicrhau eu bod ar gael. Yn ol canlyniadau arolwg ACCA ym mis Ngorffennaf, roedd busnesau yng Nghymru lawer llai tebygol o fod yn edrych i ddefnyddio opsiynau ‘pay as you grow’ Llywodraeth y DU. Dylai blaenoriaeth ar gyfer y tymor cyfredol gynnwys ymchwiliad bellach ar yr opsiynau benthyca ar gyfer busnesau bach a chanolig y tu hwnt i fenthycwyr Haen 1 a sicrhau bod cynlluniau cymorth Cymru a'r DU yn weladwy ac yn hawdd i geisio amdanynt, er mwyn creu tirlun cyllido ac arweiniad sy'n yn gwneud Cymru'n lle delfrydol i ddechrau a tyfu busnes.

Dylai’r gallu i ddod o hyd i gyllid hefyd gynnwys cyllid sydd ar gael i fusnesau i gyrraedd targedau amgylcheddol - i gefnogi busnesau bach a chanolig i wneud newidiadau sy'n lleihau allyriadau carbon. Mae ein hymgyrch fyd-eang - 'Rethinking Sustainable Business' a'r adroddiad cysylltiedig, ‘Rethinking Risk for the Future’ yn tynnu sylw at y ffaith, er mai Covid-19 yw'r argyfwng mwyaf mewn cenhedlaeth, bod y risg fwyaf i bawb i fusnes a chymdeithas yn dod o newid cyflym yn yr hinsawdd. Mae angen busnesau cynaliadwy sy'n sicrhau enillion ariannol wrth gynhyrchu gwerth cadarnhaol i gymdeithas a bod yn gyfrifol am y blaned. O wynebu newid yn yr hinsawdd i wella cynhwysiant a chydraddoldeb yn y gweithle, mae'r proffesiwn cyfrifeg yn rym allweddol er daioni mewn ymdrechion byd-eang i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDGs).

2. Ymgysylltu â busnes ar strategaethau treth

Er ei fod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, mae ymgysylltu â'r gymuned fusnes yn hanfodol o ran effaith newidiadau i drethiant ar lefel Cymru a'r DU, er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o drethi Cymru i gefnogi twf economaidd ac anghenion cymdeithasol tra nad yn rhoi cwmniau Gymreig o dan anfantais gystadleuol.

Bydd ymgynghoriadau Diwrnod Treth (‘Tax Day’) Llywodraeth y DU yn effeithio ar y ffordd y mae busnesau ac unigolion yng Nghymru yn talu treth, a’r gefnogaeth y bydd angen ar lawer ohonynt gan y proffesiwn cyfrifeg. Fyddai llawer o'r newidiadau arfaethedig yn cynrychioli newid sylweddol i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ac mae'n bwysig bod craffu priodol yn cael ei wneud ar effaith y newidiadau hyn ar fusnes, sut mae HMRC yn adeiladu yn y gymuned asiantau a chyfrifwyr i helpu busnesau i ddeall a chydymffurfio â newidiadau yn ogystal â defnydd effeithiol o arian cyhoeddus.

Mae croeso i'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes estynedig ar gyfer hamdden, lletygarwch a manwerthu ond mae angen golwg tymor hwy ar gyfraddau busnes wrth i lywodraeth y DU gynnal ei hadolygiad ei hun, yn dilyn ymlaen o'r gwaith a wnaed yn ystod y bumed Senedd. Ni ddylai unrhyw newidiadau i'r system ardrethi busnes atal gwelliant gwyrdd na buddsoddiad mewn eiddo masnachol a lefelu'r sefyllfa rhwng busnesau ar y stryd fawr a manwerthu ar-lein.

3. Sgiliau a Hyfforddiant

Mae'r cynllun Prentisiaethau yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant ond heb unrhyw arian y tu hwnt i'r rhaglen Prentisiaeth Gradd (sy’n gyfyngedig) mae perygl na all dysgwyr symud ymlaen a chyflawni eu potensial llawn a bod busnesau'n dioddef yn y tymor hir. Mae ACCA yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu Prentisiaethau Lefel 7 i ddatblygu sgiliau lefel uchel ac yn y pen draw, cefnogi twf economaidd trwy well cynhyrchiant, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Mae gwella cyfeirbwyntiau hyfforddiant a chyfleoedd cyllido ar bob lefel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod busnesau, a phobl sy'n edrych i ddechrau eu gyrfaoedd, uwchsgilio neu ailsgilio yn gallu darganfod cyfleoedd a chefnogaeth ariannol. Mae gwaith Gyrfaoedd Cymru a Working Wales ac o raglenni fel ReAct a Chyfrifon Dysgu Personol yn hanfodol yn y maes hwn, er mwyn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi ar gael ac yn weladwy i ddefnyddwyr. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwelededd cefnogaeth Llywodraeth y DU.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Lloyd Powell, ACCA Cymru / Wales